grey arrow left03 Tudalen Flaenorol

 

Dadlwytho Fersiwn i Argraffu

 

Tudalen Gyntaf

 

Tudalen Nesaf grey arrow right02

pg_00020302

Dafydd Elis-Thomas
Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd

Llywydd Siambr Fasnach Porthmadog

Croeso i hyfrydwch yr ardal unigryw hon o Fae Tremadog. Er bod Porthmadog a Thremadog yn drefi cymharol newydd yn nhermau hanes Cymru, prin yn 200 mlwydd oed, maent yn eistedd mewn tirwedd hen iawn a thrawiadol. Mae hon yn ardal o gadwraeth forol arbennig yn gorwedd alltraeth rhwng Parc Cenedlaethol Eryri ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn.

Cyfrinach llwyddiant Porthmadog yw i gyfuno’r llawenydd o fyw mewn lleoliad mor hardd gyda balchder naturiol yn ei hanes diwylliannol, celfyddydol a diwydiannol. Ar yr un pryd, mae’n cynnig cyfleoedd busnes a masnachol mewn amrywiaeth o wasanaethau a phen teithiau twristiaeth, yn enwedig gweithgaredd awyr agored ac wrth gwrs amaeth a bwyd o ansawdd.

Rydym yn mwynhau rhannu ffordd o fyw gyda phawb sy’n dymuno ei werthfawrogi. Nid llai y crwbanod môr a’r dolffiniaid sydd wrth eu boddau gyda’n llawr bwydo morol ym Mae Tremadog a’r Gweilch godidog yn dychwelyd yn flynyddol i nythu ar Aber Glaslyn. Gallwch ymuno â hwy!”

    Gwybodaeth Leol Bwysig

  • Canolfan Groeso Ffôn: 01766 512981. Ar agor drwy’r fflwyddyn, wedi ei lleoli ger
    yr harbwr. Amserlenni trenau a bysiau lleol rhad ac am ddim
  • Diwrnod marchnad Dyddiau Gwener yn ystod yr haf yn unig
  • Sêl cist car Ar dir Clwb Pêl Droed Porthmadog - dyddiau Sul o Ebrill hyd at ddiwedd Hydref.
  • Dyddiau cau’n fuan Dyddiau Mercher yn y Gaeaf
  • Gorsaf betrol 24 awr Gorsaf Shell, gyferbyn â’r Harbwr
  • Banciau HSBC, Barclays, National Westminster ar y Stryd Fawr
  • Peiriant twll yn y wal Y banciau a Tesco
  • Llyfrgell Stryd Wesla – Ffôn 01766 514091
  • Ymholiadau teithio Travel Line Cymru – 0871 200 22 33 www.traveline.info
  • Fferyllydd Rowland & Co:- 01766 513921 neu 512745
  • Gorsaf Heddlu Porthmadog 01766 512226
  • Swyddfa Post Rar gornel Bank Place / Y Stryd Fawr
  • Deintydd Mewn argyfwng – 0845 6010128
  • Meddyg tu allan i oriau 0845 8501362
  • Milfeddyg 52, Heol Fadog 01766 513651 – ar agor dydd Llun i ddydd Iau 9 - 9.30 y bore a 6-6.30 yr hwyr
  • Meysydd Parcio Gweler y map ar y dudalen ganol
  • Mannau addoli Yr Eglwys Gatholig – Eglwys y Prynwr Sanctaidd, Ffordd Borth Yr Eglwys yng Nghymru - Sant Ioan, Ffordd Penamser Capel yr Annibynwyr - Capel Salem, Stryd Fawr Yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru - Capel y Porth, Heol Fadog

 

www.porthmadog.co.uk    

small ship