Dafydd Elis-Thomas Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd Llywydd Siambr Fasnach Porthmadog
Croeso i hyfrydwch yr ardal unigryw hon o Fae Tremadog. Er bod Porthmadog a Thremadog yn drefi cymharol newydd yn nhermau hanes Cymru, prin yn 200 mlwydd oed, maent yn eistedd mewn tirwedd hen iawn a thrawiadol. Mae hon yn ardal o gadwraeth forol arbennig yn gorwedd alltraeth rhwng Parc Cenedlaethol Eryri ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn.
Cyfrinach llwyddiant Porthmadog yw i gyfuno’r llawenydd o fyw mewn lleoliad mor hardd gyda balchder naturiol yn ei hanes diwylliannol, celfyddydol a diwydiannol. Ar yr un pryd, mae’n cynnig cyfleoedd busnes a masnachol mewn amrywiaeth o wasanaethau a phen teithiau twristiaeth, yn enwedig gweithgaredd awyr agored ac wrth gwrs amaeth a bwyd o ansawdd.
Rydym yn mwynhau rhannu ffordd o fyw gyda phawb sy’n dymuno ei werthfawrogi. Nid llai y crwbanod môr a’r dolffiniaid sydd wrth eu boddau gyda’n llawr bwydo morol ym Mae Tremadog a’r Gweilch godidog yn dychwelyd yn flynyddol i nythu ar Aber Glaslyn. Gallwch ymuno â hwy!”
|