Yr Iaith Gymraeg
Mae’r iaith Gymraeg yn un o’r ieithoedd Celtaidd hynny sy’n dal i gael ei siarad heddiw. Cymru a’r wladfa ym Mhatagonia (talaith Chubut yn yr Ariannin) yw’r unig gymunedau naturiol o siaradwyr Cymraeg er bod llawer o Gymry alltud yn enwedig yn Lloegr, Awstralia a’r Unol Daleithiau.
Mae’r enwau Saesneg am y Gymraeg, Cymry a Chymru yn tarddu o enw Germaneg am estronwyr sy’n ymddangos mewn llefydd eraill yn Ewrop yn yr un modd.
Iaith Indo-Ewropeaidd yw’r iaith Gymraeg ac felly yn rhannu llawer o’i gramadeg strwythurol twfn gydag ieithoedd Indo- Ewropeaidd eraill. Mae’r Gymraeg yn perthyn yn llai agos i’r Saesneg nag yw ieithoedd megis Ffrangeg, Almaeneg ac ieithoedd Llychlynnaidd.
Mae’r Gymraeg a siaredir heddiw yn tarddu o’r chweched ganrif. Heddiw mae tua 20% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg yn rhugl, felly mae’r iaith yn iaith fyw ac yn rhan bwysig iawn o ddiwylliant a hunaniaeth y Cymry. Mae gan Wynedd y cyfartaledd uchaf o siaradwyr Cymraeg sydd oddeutu 69%. I ymwelwyr, byddai dealltwriaeth o’r iaith a’r gallu i ddweud ambell air yn gwneud yr ymweliad yn fwy pleserus.
Mae’r Gymraeg lafar yn llifo yn delynegol, ond mae’r Gymraeg ysgrifenedig yn anoddach i’w meistroli. Dyma ychydig o gymorth i’w deall.
|