Porthmadog - Y Lle I Aros
Croeso i Borthmadog (neu ‘Port’ fel y’i gelwir yn lleol) canolfan lle y gallwch grwydro Eryri: mae’n borth i Barc Cenedlaethol prydferthaf y wlad, yn 840 milltir sgwâr gyda’i mynyddoedd porffor a’i fforestydd.
Mae Porthmadog hefyd yn dref fyrlymus, yn llawn siopau a llefydd bwyta. Mae ganddi dreftadaeth gref a balch, diwylliant a chymuned. Mae’r iaith Gymraeg, sy’n cael ei siarad yn gyffredin yma, yn rhan hanfodol o’i hunaniaeth, ac mae’r bobl yn hynod gyfeillgar.
Mae eich holl anghenion gwyliau ar gael o fewn tafliad carreg. Mae dilynwyr y rheilffordd stêm wrth eu boddau yma! Mae Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru yn eich annog i gamu yn ôl mewn amser a rhoi naid ar drên y naill ben i’r dref, i fwynhau golygfeydd y mynyddoedd a siarad yn ddi-ben-draw am y dyddiau a fu.
O ba bynnag gyfeiriad y dewch i Borthmadog, ni all y golygfeydd godidog beidio â gwneud argraff arnoch. Caiff ei dominyddu ar un ochr gan fynydd Moel y Gest sy’n 262 medr uwchlaw’r dref. I’r gogledd a’r dwyrain mae ehangder aber yr afon Glaslyn, sy’n enwog fel hafan adar ymfudol a bywyd gwyllt, yn ymestyn yn ddramatig tuag at yr Wyddfa.
Wrth drafaelio o’r de, byddwch yn cyrraedd y dref ar hyd y Cob enwog. Fe’i adeiladwyd i ffurfio’r harbwr ble byddai llongau hwylio yn cario llechi wedi eu cloddio ym Mlaenau Ffestiniog a Chwm Croesor i bedwar ban byd. Mae’r Cob hefyd yn llwybr i’r rheilffordd a adeiladwyd yn wreiddiol i gludo llechi o’r chwareli i’r harbwr.
Yn y porthladd hwn a fu mor fawr yn ei amser, a’i hanes morwrol cyfoethog, rydych wedi eich lleoli mewn man delfrydol ar gyfer ymweld â’r holl brif atyniadau yn yr ardal.
Gyda holl fawredd Eryri yn y cefndir ac arfordir a thraethau heb eu hail, does unman mwy deniadol i dreulio eich gwyliau.
|