Porthmadog - Ei Threftadaeth
Mae tref Porthmadog a phentref Tremadog yn gymharol fodern, nid eto yn 200 mlwydd oed. Gwnaethant ddatblygu gyda’r diwydiant llechi, a gyda mwy nac ychydig o frwdfrydedd gan William Alexander Madocks, a anwyd yn 1773 yn Llundain ond o deulu cyfoethog o sir Ddinbych. Etifeddodd swm o arian yn dilyn marwolaeth ei dad gyda’r amod y dylai gael ei wario ar brynu tir. Erbyn hyn, roedd Madocks eisoes wedi prynu tyˆ yn Nolgellau ac wedi datblygu diddordeb twfn ac oesol yn y rhan yma o Ogledd Cymru.
Yn ystod un o’i ymweliadau â’r ardal y sylwodd ar aber yr afon Glaslyn a morfa heli Y Traeth Mawr. Yna prynodd dyddynnod bychan a’r tir o amgylch, ac adeiladu morglawdd o bridd yn ymestyn o bentref Prenteg hyd at Clog y Berth i greu arglawdd i’r môr yn ystod llanw uchel.
Gan fod hyn yn llwyddiant, fe drodd ei sylw tuag at Dremadog a oedd, yn 1806, yn ddim ond cors yn aber y Glaslyn. Yna aeth ati i adennill y tir ac adeiladu Tremadog. Dymuniad Madocks oedd sefydlu Tremadog yn fan aros i deithwyr ar y daith coets fawr o Lundain i Iwerddon. Bwriadwyd codi harbwr newydd ym Mhorthdinllaen ar Benrhyn Llyn gan nad oedd pontydd dros y Fenai ac afon Conwy bryd hynny, ond ni wireddwyd hyn.
Wedi ei galonogi gyda’i lwyddiannau, camp fawr nesaf Madocks oedd adennill ehangder tir aber afon Glaslyn, gan godi morglawdd rhwng 1808 a 1811 sy’n cael ei adnabod yn lleol fel y Cob. (Mae dathliadau 200 mlwyddiant yn cael eu trefnu yn 2011). Ailgyfeiriodd hyn gwrs yr afon Glaslyn a chreu harbwr newydd rhwng 1821 a 1825: Felly bu i’r dref gael ei henwi yn Porthmadog sy’n cyfieithu fel “Madock’s Port”. Fodd bynnag, mae llawer o’r trigolion lleol yn credu bod yr enw yn dathlu mordaith chwedlonol y Tywysog Madog i America yn y ddegfed ganrif OC.
Adeiladwyd nifer o iardiau llongau ar hyd y cei ac roedd y rhain i ddod â ffyniant i’r dref fach. Yn yr 1870’au amcangyfrifwyd bod dros fil o longau wedi defnyddio’r harbwr mewn blwyddyn, ac yn ei anterth yn 1873 cafodd dros 116,000 tunnell o lechi o Flaenau Ffestiniog eu hallforio i bedwar ban y byd.
Roedd y llongau tri mast a oedd yn cario’r llechi nid yn unig o Borthmadog ond hefyd yn cael eu hadeiladu o amgylch Bae Tremadog ac yn y pedwar iard longau ger y bae bach hyfryd yn Borth y Gest. Heddiw, mae Borth y Gest yn parhau i fod yn hoff fan i’r rhai hynny sy’n gwerthfawrogi’r môr yn fwy na thorheulo.
Dirywiodd y diwydiant llongau ac allforio llechi o’r porthladd tua’r 1880’ au. Fodd bynnag, bu i adeiladu Rheilffordd y Cambrian yn 1867 agor yr ardal i nifer gynyddol o dwristiaid o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
|