Porthmadog - Llefydd Ymweld A Phethau I’w Gwneud... Rhywbeth i bawb
Y RHEILFFYRDD
Rheilffordd Ffestiniog
Mae Rheilffordd Ffestiniog yn fyd enwog. Wedi ei adeiladu yn wreiddiol i ddod â’r llechi o Flaenau Ffestiniog i harbwr Porthmadog, heddiw mae’r injan stêm bach yn tynnu cerbydau o ymwelwyr drwy ardal hyfryd Bro Ffestiniog.
Gallwch dorri ar eich taith ar hyd y ffordd, gyda Tan y Bwlch, wedi ei leoli yng nghalon coetir y Parc Cenedlaethol, yn ddewis poblogaidd. Mae caffi’r orsaf (holwch am yr amseroedd agor cyn trafaelio) yn cynnig byrbrydau blasus ac mae nifer o lwybrau cerdded yn yr ardal. Ym Mlaenau Ffestiniog, mae’r chwareli llechi sy’n amgylchynu’r dref yn eich atgoffa o dreftadaeth ddiwylliannol cyfoethog yr ardal. Mae tywyswyr ar gael i’ch hebrwng ar y teithiau cerdded ac mae trip i’r ceudyllau llechi yn agoriad llygaid.
Rheilffordd Eryri yw prosiect diweddaraf Ffestiniog. Yn y dyfodol agos, bydd trenau yn rhedeg yr holl ffordd o ymyl castell enwog Caernarfon, drwy Feddgelert a golygfeydd syfrdanol Bwlch Aberglaslyn i Borthmadog i ymuno â’r Ffestiniog yng Ngorsaf yr Harbwr. Bydd y daith 25 milltir yn un o deithiau rheilffordd gorau Prydain.
Mae trenau yn rhedeg drwy’r flwyddyn gyda gwasanaeth rheolaidd rhwng y Pasg a diwedd Hydref. Mae’r rhan fwyaf o’r trenau yn cael eu tynnu gan stêm. Gwnewch y gorau o’ch diwrnod gyda thocyn crwydro llawn; gadewch eich car, eisteddwch nôl a mwynhewch yr olygfa. Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth, ffoniwch 01766 516000 neu ewch i’r wefan - wwwfestrail.co.uk neu edrychwch ar yr amserlen.
|