Rheilffordd Ucheldir Cymru
Delfrydol i deuluoedd gyda phlant ifanc
Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru, Ymddiriedolaeth Elusennol Aelod - Berchen, yn cynnig profiad unigryw. Mae llawer o reilffyrdd yn cynnig teithiau hir: mae’r rhain yn aml yn ddrud iawn, ac mae’r plant iau yn diflasu yn fuan. Ond mae’r rheilffordd hon nid yn unig yn werth am arian - gallwn hefyd warantu yn ffyddiog na fydd gennych yr amser i ddiflasu!
Mae cerbydau mawr moethus y daith fer yn cael eu tynnu un ai gan injan tanwydd glo traddodiadol fel ‘Gelert’, neu ar amseroedd distawach gan yr Hunslet disel enwog, a fu’n gweithio ar safle Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Mae’r trên yn mynd â chi cyn belled â Chyffordd Pen Mount - replica union o arosfa fach wreiddiol yr WHR - ac yna yn eich dychwelyd i Fferm Gelert.
Yma daw’r Gard yn dywysydd, a’ch hebrwng o amgylch amgueddfa “Siediau’r Injan”, ble y gallwch ddringo ar y locomotif a gweld sut mae’n gweithio, a mwynhau tro ar y rheilffordd fach.
Yn ôl yng ngorsaf WHR Porthmadog, mae detholiad godidog o lyfrau rheilffordd a chofroddion yn y siop, ac mae yr Ystafell De Russel yn darparu prydau a chacennau hufen arbennig. Mae y maes parcio yn ddi-dâl gyda maes parcio arhosiad hir am bris rhesymol ger llaw.
Pob Gwˆ yl Banc Calan Mai cynhelir Gala Gwanwyn adnabyddus, a thrwy gydol y flwyddyn ceir digwyddiadau arbennig i blant - Bwnis Pasg ar Sul y Pasg, Tedi Bêrs a Dreigiau yn y Gwanwyn, ac ysbrydion Parti Calan Gaeaf yn Hydref.
Gofynnwch am y gweithgareddau Profiad Gyrrwr ar Loco Stem: anrheg pen-blwydd delfrydol i’r un brwdfrydig. Gallwch ein canfod gyferbyn â gorsaf prif lein Porthmadog. Am wybodaeth pellach, ffoniwch 01766 514302 neu ymwelwch â’r wefan www.whr.co.uk
|