Rheilffordd Y Cambrian Mae lein Rheilffordd y Cambrian yn mynd â chi i Bwllheli, Harlech, Abermaw, Tywyn a Machynlleth. Gweler tudalen 49 am fwy o fanylion.
Yr Harbwr
Pen Cei Wedi ei leoli tu ôl i’r Amgueddfa Forwrol, roedd yr ardal hon yn arfer bod yn fwrlwm o weithgaredd. Roedd yna waith adeiladu a thrwsio llongau, traffig nwyddau cyffredinol i mewn ac allan o’r porthladd, a chei ar gyfer pob un o’r cwmnïau chwareli llechi gyda thrac o’r rheilffordd i lwytho yn yr harbwr. O Pen Cei, gallwch gerdded heibio’r Clwb Hwylio a’r iard gychod i Borth y Gest. Heddiw, mae’n leoliad poblogaidd ble y gallwch eistedd ac edrych ar y cychod pleser a’r cychod hwylio sy’n defnyddio’r harbwr.
Yr Amgueddfa Forwrol Wedi ei leoli tu ôl i’r Ganolfan Groeso ger Cei yr Oakley ger yr Harbwr, mae’r Amgueddfa Forwrol yn lle hudolus i dreulio ennyd. Efallai y bydd y Curadur yn eich diddanu gyda hanes y dref, a hanes y llong olaf - Y Gestiana - i’w hadeiladu yn y porthladd a suddodd ar ei thaith gyntaf yn 1931. Roedd llawer yn credu i hyn ddigwydd oherwydd pan y’i lansiwyd, methodd y botel siampên dorri ar flaen y llong!
Grisiau Mawr Adeiladwyd y Grisiau Mawr mae’n debyg yng nghanol yr 1800 i gysylltu Pen Cei â’r Garth. Mae’r golygfeydd o’r bryniau, yn edrych i lawr dros yr aber, y Cob a Chei Balast a thuag at Eryri ac arfordir y Cambrian yn rhywbeth ysblennydd.
Y Ganolfan Mae’r ganolfan gymunedol wedi ei lleoli y drws nesaf i’r Ganolfan Groeso ar y Stryd Fawr. Cadwch lygaid am gyngherddau a gweithgareddau cymdeithasol eraill sy’n cael eu llwyfannu’n gyson drwy’r haf. Mae nos Wener yn noson Bingo drwy gydol y flwyddyn!
|