Galeri Mae galeri enwog Rob Piercy wedi ei guddio yn Heol yr Wyddfa ac mae’n werth galw heibio. Gallwch brynu darlun gwreiddiol gan Rob Piercy neu dewis o ddetholiad eang o brintiau rhagorol, ynghyd â gweithiau eraill gan artistiaid lleol enwog.
Y Coliseum Ar ben draw’r Stryd Fawr, gyferbyn â Tesco, dewch o hyd i’r Coliseum, sinema gymunedol 400 sedd y dref. Cafodd ei adeiladu yn 1931, ac mae’n cadw llawer o’i nodweddion gwreiddiol. Dyma ble y cafodd “First Night”, a gafodd ei ffilmio ar leoliad yn yr ardal, ei dangos am y tro cyntaf. Efallai mai dim ond lle bach ydyw, ond mae’n dangos y ffilmiau diweddaraf i gyd mewn awyrgylch hen-ffasiwn a hudolus. Mae’r sinema ar agor bob nos o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.
Canolfan Hamdden Glaslyn Ger gorsaf prif lein Rheilffordd y Cambrian, mae Porthmadog yn ymffrostio mewn canolfan hamdden fodern gydag amrediad o adnoddau eang ar gyfer pob oed: ystafell stêm, ystafell ddawns, neuadd chwaraeon, pwll nofio, pwll nofio plant, cwrt sboncen, efelychwr golff, cwrt tennis ac ystafell ffitrwydd penigamp.
|