Porthmadog – Paradwys I Siopwyr!
O’i chymharu â llawer o drefi eraill, mae Porthmadog yn hollol unigryw. Mae’n llawn o siopau bach arbenigol a hudolus, pob un a’i chymeriad, a llawer yn atgofus o’r dyddiau a fu. Byddai yn hawdd edrych ar y dref fel un Stryd Fawr hir, ond os crwydrwch y strydoedd ochr a’r llwybrau cefn, gyda’u siopau bach dymunol, ni chewch eich siomi!
Mae’r mwyafrif o siopau Porthmadog yn cael eu rheoli gan eu perchnogion, ac yn aml yn derbyn help llaw gan aelodau o’r teulu. Felly, os ydych yn aros ym Mhorthmadog, neu yn ymweld am orig yn unig, dyma’r lle i brynu popeth - o’ch anghenion dyddiol i anrhegion ar gyfer y teulu a chofroddion o’ch gwyliau.
O waith celf gwreiddiol a chrefftwaith Cymreig rhagorol i nwyddau’r felin wlân, dyma’r lle i siopa. Ymwelwch â Chrefft Cymru ar gyfer crefftau Cymreig, y Twb Lemon ar gyfer yr anrheg arbennig neu Bear Print gyda’i gasgliad o dedis a theganau Corgi arbenigol.
Mae gan y dref siop ryngrwyd, Cyfrifiaduron Porthmadog i’ch galluogi i gadw mewn cysylltiad gyda’ch ffrindiau a’ch teulu, Eric Owen, siop nwyddau metel Porthmadog, adlais o’r blynyddoedd a fu, a GC Williams, siop fach yn arbenigo mewn nwyddau trydanol. Sawl tref fechan all ymfalchïo yn ei siop ddodrefn ei hun? Mae gan Quaecks adrannau goleuadau, carpedi a dodrefn meddal.
Kerfoots ger y cylchfan ar y Stryd Fawr yw ‘John Lewis’ bach yr ardal yn gwerthu nwyddau cartref, crisial ac anrhegion. I nodi’r Mileniwm, comisiynwyd cromen gwydr lliw gan y siop, a gallwch ei weld wrth ddringo’r grisiau tro cain. Ac os ydych wedi bod yn edrych am LP neu CD anodd ei gael ewch i Cob Records - deliwr recordiau rhyngwladol.
Pob pen i’r dref gallwch fwynhau pori drwy’r siopau rheilffyrdd. Yng Ngorsaf Harbwr Rheilffordd Ffestiniog, mae amrywiaeth o gofroddion, DVD’s a ffotograffau tra bod detholiad o lyfrau a DVD’s siop Rheilffordd Ucheldir Cymru - gyferbyn â Gwesty’r Queens ger gorsaf y brif lein - heb ei ail.
Ar y Stryd Fawr, gellir canfod tair siop gemwaith Cymreig coeth, crochenwaith Portmeirion a ffotograffiaeth Nigel Hughes ar gyfer camerâu, ffilmiau a phrosesu eich lluniau gwyliau. Chwiliwch am Outdoor World ar Ffordd Penamser os ydych yn ystyried gwersylla, cerdded neu ddringo, a Charafannau Hamdden ar gyfer eich anghenion carafanio.
|