Gellir canfod siopau hen greiriau a bric a brac lawr y lonydd cefn. Mae Oriel Hafan Gallery yn gwerthu printiau hynafol o Borthmadog a gallwch ddod o hyd i lyfrau o ddiddordeb lleol yn Browsers neu yn Bargain Books. Mae siopau megis Siop Eifionydd yn gwerthu llyfrau a cherddoriaeth Cymraeg, ac mae yna nifer o fanwerthwyr yn gwerthu dillad ffasiynol i ferched a dynion, peth prin i’w weld mewn trefi bach heddiw. Os ydych yn ystyried mabwysiadu ci amddifad neu un wedi ei gam-drin, ymwelwch â PAWS neu’r Freshfields Animal Rescue Centre ar y Stryd Fawr.
Gall Porthmadog hefyd ymffrostio yn y ddau gigydd sy’n gwerthu cig Cymreig lleol a thair siop groser - Pritchards, Joe Lewis a Maelfa. Mae yna boptai yn gwerthu’r dorth Gymreig enwog Bara Brith, mae Cadwaladers yn gwneud ei hufen iâ ei hun a cheir pedair siop delicatessen.
Ar gyfer bwydydd cyffredinol, mae gan y dref bedair archfarchnad - Aldi Stores ar Ffordd Penamser - adeilad newydd modern awyrog gyda llawer o fwydydd gwahanol a blasus o bedwar ban y byd - Lidl, Tesco a Spar. Mae digonedd o ddewis gyda pharcio hwylus yn y meysydd parcio cyhoeddus arhosiad byr neu arhosiad hir pob pen i’r dref. (Gweler y map am fanylion).
Dyma ychydig yn unig o’r rhyfeddodau sydd gan Borthmadog i’w gynnig. Nid yw’n fawr o syndod ei bod yn dref mor boblogaidd gan y cwsmeriaid lleol a’r rhai hynny sy’n teithio milltiroedd ar gyfer diwrnod o siopa.
Nid oes tref arall debyg iddi yn Eryri na Phenrhyn Llyˆn.
|