Yfed A Bwyta Ym Mhorthmadog
O dref fach, mae gan Borthmadog nifer anghyffredin o uchel o lefydd bwyta i blesio chwaeth a phoced pawb. Ar y cyfri olaf, roedd cyfanswm o bedwardeg un o lefydd bwyta o ddisgrifiadau gwahanol i’w canfod ym Mhorthmadog, Tremadog a Borth y Gest.
Mae’r amrywiaeth yn cynnwys unig fwyty Rosette AA Porthmadog - Gwesty’r Heliwr - sy’n gweini prydau Ewropeaidd modern gyda dylanwad Môr y Canoldir - yn ei ystafell fwyta newydd. Mae gan y Gwesty hefyd dafarn gastro ble caniateir cwˆ n. Ceir bwydlen iach i blant a gweinir coffi penigamp.
Mae gan Borthmadog nifer o fwytai bistro - Y Winwydden, Yr Hen Fecws, ac mae’r Sgwâr, a’r Cnu Aur yn Nhremadog. Ceir bwydydd tafarn traddodiadol yn y Pen Cei ger yr Harbwr a cheir bwydydd ethnig poblogaidd mewn dau fwyty Indiaidd ac un Sieiniaidd.
Mae yna nifer o ddarparwyr ‘bwyd i fynd allan’ ym Mhorthmadog a Thremadog fel y gwelwch mewn llawer o drefi bach – pedair siop pysgod a sglodion, Pizza, bwyd Eidalaidd a Sieiniaidd i ddim ond enwi rhai. I’r sawl sydd eisiau brechdan neu baguette i fwyta mewn neu allan, ewch i Jessie’s ar y Stryd Fawr ger Banc y Barclays. Ac ar y diwrnodiau heulog a chynnes, blaswch hufen iâ cartref yn siop Cadwaladers sydd ar y Stryd Fawr.
Er gwaethaf y dirywiad mewn nifer o dafarndai drwy’r wlad, mae un ar ddeg ym Mhorthmadog yn gweini amrediad o wahanol gwrw. Mae Spooners, yng Ngorsaf Reilffordd Ffestiniog yn adnabyddus am ei amrywiaeth o gwrw, ac yn boblogaidd iawn gyda dilynwyr trenau. Mae’r Pen Cei yn edrych dros yr Harbwr, ac mae Gwesty’r Heliwr yn adnabyddus am ei ddewis o gwrw a gwinoedd byd eang sydd ar gael fesul gwydr neu botel. Fodd bynnag, un o’r cwrw mwyaf poblogaidd yw’r un gan fragdy y Mwˆ s Piws yn y dref.
|