Bragdy Mw ^ s Piws
Mae Bragdy Mws Piws wedi cynhyrchu cwrw ym Mhorthmadog ers Mehefin, 2005, yn creu cwrw lleol o safon ar gyfer yfwyr Gogledd Gorllewin Cymru. Yn wreiddiol roedd dau frand gwahanol; Cwrw Madog wedi ei enwi ar ôl William Alexander Madocks a Chwrw Glaslyn wedi ei enwi ar ôl yr Afon Glaslyn.
Cynyddodd y cynhyrchu yn raddol dros nifer o flynyddoedd ac mae yna alw mawr bellach am gwrw Mwˆ s Piws ar hyd Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae pedwar cwrw gwahanol yn rhan o’r dewis sefydlog erbyn hyn yn dilyn ychwanegiad Cwrw Eryri ac Ochr Dywyll y Mwˆ s. Gellir darganfod cwrw arbennig y mis hefyd mewn gwestai lleol. Mae Bragdy Mwˆ s Piws wedi derbyn sawl gwobr am ei amrediad o gwrw yn cynnwys ennill gwobr Pencampwr Rhanbarthol ddwywaith a gwobrwyon ar lefel cenedlaethol.
Pa un ai ydych yn arbenigwr ar gasgen o gwrw neu yn ystyried blasu am y tro cyntaf, gwnewch yn siwˆ r eich bod yn profi cwrw gwych y Mwˆ s Piws yn y llefydd canlynol wrth ymweld â’r ardal:
Portmeirion - Spooner’s - Clwb Hwylio Madog - Hen Fecws - Gwesty’r Heliwr - Bistro’r Winwydden - Tyddyn Llwyn - Tafarn yr Orsaf - Ystafelloedd Te Sea View, Borth y Gest - Bistro’r Moorings, Borth y Gest - Y Sgwâr, Tremadog - Tafarn yr Union Inn, Tremadog - Y Cnu Aur, Tremadog - Aberdunant Hall Hotel, Prenteg.
Mae poteli ar gael gan amrywiol fanwerthwyr yn y dref. Mae gan Fragdy Mwˆ s Piws hefyd siop yn y bragdy yn Heol Fadog ble gallwch brynu’r cwrw mewn poteli ynghyd â nwyddau eraill amrywiol.
|