Pethau I’w Gwneud A’u Gweld Yn Lleol
Borth Y Gest
Pentref prydferth heb ei ddifetha gyda chreigiau a childraethau euraidd cuddiedig, y gellir eu cyrraedd ar droed drwy ddilyn llwybr troellog ar ben draw y cei, neu siwrnai tri munud mewn car o ganol y dref. Roedd llongau yn cael eu hadeiladu yma cyn i Borthmadog gael ei sefydlu ac roedd yna pedair iard cychod prysur. Adeiladwyd tai ar geg yr harbwr ar gyfer peilotiaid fel y gallent gadw golwg am longau a oedd angen sylw. Mae’r tai hyn yn dal i gael eu hadnabod fel ‘tai peilot’. Mae yn hoff fan i’r rhai sy’n caru’r môr yn fwy na gorwedd ar y traeth.
Morfa Bychan
Clwb Golff Porthmadog Mae llawer o olffwyr yn dewis Porthmadog fel canolfan ac yn chwarae ar gwrs Porthmadog, sydd mor boblogaidd ag erioed ac wedi ei leoli ym Morfa Bychan, pum munud mewn car o ganol y dref. Yn edrych dros Draeth y Graig Ddu, mae cymysgedd o rostiroedd a meysydd golff glan y môr gyda dau ran amlwg. Nid yw’r 9 twll blaen yn gyfochrog â’r arfordir ond mae’r 9 twll cefn yn rhedeg ar hyd ochr y môr. Mae angen ergyd o dros 200 llath i glirio’r traeth ar y 12fed twll ac mae’r twll anodd ar y 14eg, yn cael ei alw yn Himalayas. Mae hwn yn 378 llath, par 4 sy’n mynnu eich bod yn gyrru’r bêl dros fyncer naturiol anferthol sy’n cuddio’r cwrs o’r ti. Mae Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant yn Harlech a’r cwrs ym Mhwllheli yn gyrsiau golff eraill glan y môr o fewn 25 munud mewn car o’r dref.
Traeth Y Graig Ddu Un o’r ychydig draethau ym Mhrydain ble y gallwch gamu o’ch car yn syth ar dywod, sy’n ymestyn cyn belled ag y gwelwch. Mae’r twyni tywod o amgylch wedi eu dynodi yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn cynnig golygfeydd ysblennydd o Fae Ceredigion. Gallwch dorheulo a nofio nes eich bod yn fodlon eich byd wrth fwynhau golygfeydd y mynyddoedd. Mae’r dwˆr bas yn ei gwneud yn hafan i blant bach, ond nodwch fod yr ardal yn boblogaidd gyda jetiau sgïo a chychod pwˆ er. Mae’r rhain yn cael eu cadw yn ddigon pell oddi wrth dorheulwyr. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys parcio ar lan y môr, toiledau, cawodydd, dwˆr yfed, ardaloedd gwahardd cwˆn a chychod ac ardal lansio.
|