Tremadog
Enghraifft berffaith o gynllunio tref yn nechrau’r 19eg ganrif gan Madocks a brynodd y tir yn 1798, gyda’r sgwâr wyneb cobls hudolus a mawreddog. Erbyn 1805, cafodd y bythynnod cyntaf i weithwyr eu hadeiladu yn yr hyn a alwodd yn ‘Pentre Gwaelod’. (mae’n debyg mai 1 - 9 Heol Dulyn ydynt). O fewn y flwyddyn, roedd wedi newid enw’r pentref i Dre Madoc.
Cafodd y safle, cynllun, adeiladau a’r gofod cyffredinol eu cynllunio i greu argraff o fwrdeistref. Yn brin o’r cyfoeth i adeiladu popeth ei hun roedd Madocks eisiau denu pobl i mewn i’w dref i adeiladu o fewn cynllun cryf cyflawn. Y rhan bwysicaf o’r dref oedd Sgwâr y Farchnad. Roedd y clogwyn serth yn y cefndir yn rhoi effaith theatrig i’r holl ardal. Cwblhawyd canol hanesyddol Tremadog erbyn 1811 ac yn wir mae’r rhan yma o’r dref yn parhau i fod yn sylweddol ddigyfnewid hyd heddiw.
Ar Heol Llundain wrth ddod allan o Dremadog, mae capel mawreddog yr anghydffurfwyr a adeiladwyd yn 1810 gydag arddull glasurol portico yn cael ei ychwanegu yn 1849. Gyferbyn mae Snowdon Lodge, y man ble ganwyd T. E. Lawrence (Lawrence of Arabia).
Drws nesaf i hyn mae Eglwys Y Santes Fair, un o’r eglwysi ‘adfywio gothig’ cynharaf yng Nghymru yn dyddio o 1811. Mae’r eglwys wreiddiol wedi cael ei hatgyweirio a’i adnewyddu yn llawn fel canolfan gymunedol, prosiect a gafodd ei arwain gan Gyfeillion Cadw Tremadog, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol. Cafodd ei sefydlu yn 1991 i amddiffyn a diogelu treftadaeth bensaernïol, hanesyddol a strwythurol Tremadog.
|