Portmeirion
Wedi ei leoli ddwy filltir i’r de o Borthmadog, mae’r pentref Eidalaidd hudolus hwn ar agor drwy’r flwyddyn. Mae’n sefyll ger harddwch aber y Ddwyryd, ac yn rheidrwydd ar gyfer pob ymwelydd i’r ardal. Mae’n rhaid talu i fynd i’r pentref, ond mae’n werth pob ceiniog er mwyn cael gweld y lle rhyfeddol hwn. Crëwyd y pentref a’i erddi botanegol gwych gan y pensaer Clough Williams-Ellis rhwng 1926 a 1972. Darparodd y pentref leoliad ar gyfer y gyfres deledu cwlt ‘The Prisoner’ ac mae’n parhau i ddenu llawer o ymwelwyr o ganlyniad i hynny.
Gwalch Y Pysgod
Nid yw ‘Prosiect Gwalch y Glaslyn’ gan RSPB Cymru ond ychydig filltiroedd o Borthmadog. Teithiwch ar hyd yr A498 o Dremadog i Brenteg ac yna i’r chwith ar hyd y B4410 i Lanfrothen. Ers 2004, mae Dyffryn Glaslyn wedi bod yn gartref i’r unig ddau walch sy’n magu yng Nghymru.
Gall ymwelwyr fwynhau’r golygfeydd drwy delesgop pwerus ar y safle ac ar dair sgrin fawr yn y ganolfan ymwelwyr gyfagos. Mae’r rhain yn darlledu lluniau byw a sain yn syth o’r nyth, yn mynd a chi yn agosach fyth at y teulu sy’n nythu wrth i’r gwalch gludo bwyd i’w gywion. Efallai y byddwch yn ddigon lwcus i gael cip olwg ar ehediad cyntaf y cywion!
Cerdded
Mae nifer o lwybrau cerdded bendigedig yn ac o amgylch Porthmadog gyda golygfeydd hardd. Efallai mai’r un mwyaf deiniadol yw’r LLWYBR CERDYN POST (gweler y map ar tudalen 28). Cerddwch i lawr Heol yr Wyddfa tuag at y mynyddoedd ac ym mhen y stryd, wedi croesi’r dramffordd, daw creigiau Tremadog i’r golwg. Gallwch weld Moel Hebog a Moel Ddu ar y chwith, Yr Wyddfa yn y canol, a’r Cnicht a Moelwyn Mawr ar y dde. Cerddwch dros bont Y Cyt (camlas fechan a adeiladwyd er mwyn i Madocks allu draenio’r Traeth) sy’n bwydo i’r harbwr mewnol a adnabyddir yn lleol fel “Llyn Bach”.
|