Cynlluniwyd hwn yn wreiddiol i fod yn harbwr llanw parhaol gyda dorau ym Mhont Britannia a lein nwyddau o brif lein Rheilffordd y Cambrian. Fodd bynnag, pan fethodd y cynllun hwn daeth yn gronfa rheoli llifogydd ar gyfer yr hen borthladd llechi. Ar ôl croesi’r bont, mae llwybr i’r dde sy’n eich arwain ar hyd wal fewnol yr harbwr.
Ar hyd y llwybr hwn i’r chwith mae golygfeydd hardd o’r ‘Traeth Mawr’ ar aber yr afon Glaslyn. Mae’r gorlifdir glaswellt hwn yn lloches i nifer o adar hirgroes o rywogaethau gwahanol megis y crëyr glas, y gylfinir, pibydd y dorlan, gwyddau, hwyaid ac elyrch i enwi dim ond rhai. Os byddwch yn lwcus, efallai y gwelwch ein gweilch lleol yn pysgota! Mae’r planhigion a’r ffawna yn dynodi’r ardal yn Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn ogystal â phrydferthwch eithriadol gyda’r Cnicht, y ddau Foelwyn a bryniau’r Cambrian yn y cefndir.
Cyn cyrraedd pen draw’r llwybr, pam nad eisteddwch ar un o’r meinciau ac edmygu’r golygfeydd gwych, efallai gydag un o’r trenau o Orsaf yr Harbwr ar y ffordd i Flaenau Ffestiniog? Wedi hynny, ewch ar hyd y llwybr dros glwydi’r llifddor gan ymadael gyferbyn â Rheilffordd Ffestiniog i’ch chwith a’r Ganolfan Groeso i’ch dde.
Ar gyfer y rhai mwy anturus, mentrwch heibio’r Ganolfan Groeso at Pen Cei, heibio’r Clwb Hwylio a’r iard longau, trowch i’r dde i fyny’r allt fer ac mi aiff y llwybr a chi i Forth y Gest.
|