Clwb Pêl Droed Porthmadog
Sefydlwyd Clwb Pêl Droed Porthmadog, un o glybiau hynaf Cymru yn 1884. Nhw oedd pencampwyr Cynghrair Gogledd Cymru yn 1902/03 gan gyrraedd rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru yn 1905/06 ond roedd rhaid aros tan 1937/38 cyn ennill pencampwriaeth arall.
Roedd y 50au, y 60au a’r 70au yn ddegawdau llwyddiannus iawn i ‘Port’. Enillwyd Cwpan Amatur Cymru yn 1955/56 and 1956/57. Daeth dyfodiad Mel Charles a mwy o lwyddiant. Roedd Port yn bencampwyr cynghrair tri thymor yn olynol rhwng 1966 ag 1969. Yn ogystal, yn 1966 chwaraewyd yn erbyn Abertawe yng Nghwpan Cymru yn y Vetch o flaen torf o 10,941. Yn y saithdegau, roeddent yn bencampwyr ddwywaith ac yn bencampwyr Cynghrair Cymru yn 1989/90. Sicrhaodd hyn le i Borthmadog yn y Gynghrair Cymru newydd ffurfiedig (1990). Yn 1992, daeth Port yn un o’r timau cyntaf i fod yn aelod o Gynghrair Cymru. Heddiw, mae’r clwb yn parhau i fod yn aelod o Brif Gynghrair Cymru.
Porthmadog – Dyddiau Difyr
Mae mwy na digon o ddewis wrth ddefnyddio Porthmadog fel canolfan i aros ynddi ac i archwilio Eryri, Pen Llyn, arfordir y Cambrian a Dyffryn Conwy. Gadewch eich car a defnyddiwch un o’r opsiynau eraill i ddarganfod harddwch Eryri.
Rheilffyrdd
Rheilffordd Arfordir Y Cambrian Efallai mai un o’r teithiau mwyaf trawiadol yw’r trên Arriva o Borthmadog ar hyd arfordir y Cambrian drwy Harlech i Fachynlleth neu drwy Gricieth i Bwllheli. Mae’n arfordir gwirioneddol syfrdanol ble y byddai’r Cambrian Coast Express yn ei ddydd yn teithio o Orsaf Paddington yn Llundain.
Mwynhewch ddiwrnod gwych heb gar - eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a gadewch y boen o ddreifio a pharcio i rywun arall. Mae pamffled ‘Gwylwyr y Cambrian’ yn amlygu’r pethau o ddiddordeb ar y lein tra bydd Cwis Pencampwr y Cambrian yn difyrru’r plant a’r rhai hyˆn! Cyfres o lwybrau rhwng y gorsafoedd ar hyd y lein yw’r Llwybrau Cambrian. I gael copïau am ddim o’r cyhoeddiadau a gwybodaeth pellach, yn cynnwys gostyngiadau i atyniadau a ymwelir â hwy gan y trên, ewch i’r Ganolfan Groeso ym Mhorthmadog neu ymwelwch â www.thecambrianline.co.uk
|