Rheilffyrdd Ffestiniog ar Eryri
Bydd diwrnod allan gwych o Borthmadog i Gaernarfon ar reilffordd fach gul newydd Rheilffordd Eryri yn dangos trafnidiaeth dwristaidd ar ei gorau. Yn rhedeg drwy Fwlch Aberglaslyn, a enwyd fel yr Olygfa Orau ym Mhrydain gan aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’r lein yn cynnig seibiant ym mhentref bach hardd Beddgelert cyn dringo yn serth yng nghysgod yr Wyddfa, ac yna disgyn yn ôl at y môr ger castell enwog Caernarfon. Mae hwn yn ddiwrnod llawn ond mae teithiau byrrach ar gael.
Neu, teithiwch i Flaenau Ffestiniog ar Reilffordd Ffestiniog, a chymrwch drên Arriva ar hyd lein Dyffryn Conwy i Fetws y Coed a Llandudno.
Ar hyd y ffyrdd
Defnyddiwch y rhwydwaith rhagorol o fysiau i weld Eryri a Phen Llyˆn. Mae nifer o docynnau crwydro ar gael gyda dewis o fws neu drên, neu gymysgedd o’r ddau. Neu, dilynwch yr un daith yn eich car eich hunain neu hyd yn oed ar eich beic!
Anelwch am y Gogledd Orllewin i Gricieth (A497), taith ugain munud. Paratowch am olygfa fendigedig o’r castell ar benrhyn creigiog wrth i chi agosáu at y dref. Cafodd y castell hwn ei adeiladu yn wreiddiol gan dywysogion canoloesol Cymreig ac ychwanegwyd ato gan Edward y Cyntaf o Loegr, cyn cael ei anrheithio gan Owain Glyndwˆ r yn 1240. Mae’r gaer yn haeddu ymweliad. Ewch ymlaen o Griccieth i Lanystumdwy, cartref Lloyd George am flynyddoedd, un o brif weinidogion enwocaf Prydain, ac yna ymlaen tuag at Bwllheli ac o amgylch Pen Llyˆn, sy’n cael ei adnabod fel y Riviera Cymreig, ac yn enwog am ei greigiau a’i draethau tywod.
|