Anelwch am y Gogledd Ddwyrain drwy Dremadog (A498) tua Beddgelert, pentref mynyddig bendigedig i ymweld ag ef, yn enwedig yn ystod yr Haf pan mae’n llawn blodau. Mae’n ennill cystadleuthau ‘Britain in Bloom’ flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’n llawn mytholeg Cymreig felly gwnewch yn siwˆ r eich bod yn ymweld â bedd y ci chwedlonol Gelert.
O Feddgelert, teithiwch i Lanberis ar hyd yr A498, drwy olygfeydd ysblennydd y mynyddoedd, i gartref enwog Tren yr Wyddfa, Rheilffordd Llyn Padarn, Amgueddfa Lechi Cymru a’r Mynydd Gwefru.
Anelwch i’r Gogledd am Gaernarfon (A487), prifddinas seremoniol Cymru gyda’i chastell gwych o’r drydedd ganrif ar ddeg, sy’n Safle Treftadaeth Cymru. Ewch ymlaen tua Bangor, yna anelwch i’r chwith, a chroesi pont grog Thomas Telford dros y Fenai i Ynys Môn. Cymerwch yr A545 tuag at Biwmares a’i chastell coeth a’i thai lliwgar, neu dilynwch yr A5 i Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllandysiliogogogoch, y pentref bach gyda’r enw hiraf yng Nghymru! Darganfyddwch y cildraethau hardd a’r baeau tywodlyd, ac ar gyfer teuluoedd yn benodol, ymwelwch â Swˆ Fôr Môn a Pharc Fferm Foel ym Mrynsiencyn.
Anelwch i’r De Orllewin (A470) drwy Benrhyndeudraeth ac yna trowch i’r dde tuag at y dollbont ac ymlaen i Harlech gyda’i chastell hyfryd o’r drydedd ganrif ar ddeg yn syllu dros Fae Ceredigion. Ewch ymlaen ar hyd yr arfordir i Abermaw ar geg Aber yr afon Mawddach gyda mynyddoedd deheuol Eryri yn gefndir bendigedig. Teithiwch ymlaen i Ddolgellau sydd wrth droed Cader Idris, yn enwog am ei chloddfeydd aur, a dychwelwch ar hyd yr A470 tuag at Drawsfynydd.
Anelwch i’r De Ddwyrain i Flaenau Ffestiniog (A470) a thu allan i’r dref, dewch o hyd i chwarel enwog Llechwedd, enillydd yr holl brif wobrau twristaidd. Ewch ymlaen i’r Gogledd ar hyd yr A470, yna cymrwch yr A5 i Fetws y Coed, cyrchfan dwristaidd boblogaidd iawn. Ymwelwch â’r Rheadr Ewynnol ar gyrion y dref, a pharhau i’r gogledd i Gapel Curig cyn cymryd yr A4086 tuag at Yr Wyddfa, Beddgelert a Phorthmadog.
Anelwch i’r Dwyrain (A470) heibio Llyˆn Trawsfynydd a chymrwch yr A4212 dros fynyddoedd y Berwyn i’r Bala, sydd ar lannau’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, Llyn Tegid, ac eisteddwch yno am bicnic. Mae’n ganolfan chwaraeon dwˆr rhyngwladol a gellir cael golwg ohoni wrth deithio ar Reilffordd Llyn Tegid. Teithiwch i’r de ar yr A494 i dref farchnad Dolgellau a dychwelwch ar yr A470 tuag at Drawsfynydd, ac yna adref i Borthmadog.
|